SL(5)161 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (y Ddeddf) yn sefydlu treth newydd sy'n cael ei galw yn dreth gwarediadau tirlenwi. Codir y dreth ar warediadau trethadwy (fel y'u diffinnir yn y Ddeddf).

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweinyddu'r dreth.

Mae'r Rheoliadau yn pennu gofynion ychwanegol sydd â'r bwriad o gynorthwyo gweithredwyr safleoedd tirlenwi i bennu'r atebolrwydd treth cywir ar gyfer dirwyon gwastraff, gan gynnwys methu profion tanio a/neu roi'r pwerau angenrheidiol er mwyn galluogi hysbysiad Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) i wneud hynny.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn sefydlu credyd ansolfedd cwsmer y gall gweithredwr safle tirlenwi ei hawlio mewn amgylchiadau lle bydd eu cwmser yn dod yn ansolfent cyn talu i'r gweithredwr safle tirlenwi am gyflawni gwarediad trethadwy.

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Craffu ar faterion technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar y Rhinweddau

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) (sef eu bod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu eu bod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad) mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Nid oes diffiniad o 'ACC' yn Gymraeg (neu 'WRA' yn Saesneg).  Mae'r un peth yn wir am 'DCRhT' yn Gymraeg (neu 'TCMA' yn Saesneg). Dylai'r ddau ddiffiniad gael eu cynnwys yn Rheoliad 2. 

Er bod y diffiniadau hyn wedi'u cynnwys yn adran 96 o'r Ddeddf, dylid eu cynnwys yn y Rheoliadau.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Dim.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

9 Ionawr 2018